Gwybodaeth Hawlfraint
Gall athrawon lungopïo neu atgynhrchu’r holl ddeunydd ar y wefan hon (www.stats4schools.gov.uk) yn electronig i’w ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Cedwir pob hawlfraint ar gyfer unrhyw gopi o’r deunyddiau hyn ar yr un ffurf â’r gwreiddiol, a bydd yn cynnwys yr URL www.stats4schools.gov.uk cyflawn fel y bo’n briodol. Hefyd, gall athrawon olygu neu ailddrafftio’r deunydd, defnyddio testun neu dablau, defnyddio dyfyniadau a/neu eitemau o’r eirfa. Os gwneir hyn, dylid nodi “Addaswyd o” yn y ffynhonnell. Mae’n rhaid cydnabod ffynhonnell y data a gynhyrchwyd gan y dewisydd data ar hap neu a gymerwyd o dablau a graffiau ym mhob dogfen a gohebiaeth, yn cynnwys ar safleoedd Rhyngrwyd, drwy ddarparu’r dyfyniad canlynol sy’n ymwneud â ffynonellau: "Ffynhonnell (neu “Addaswyd o”, os yw’n briodol): www.stats4schools.gov.uk, [dyddiad tynnu]." Os hoffech gynnwys deunydd o www.stats4schools.gov.uk yn eich cyhoeddiad dylech gysylltu â ni drwy anfon ebost at info@statistics.gov.uk i gael caniatâd i atgynhyrchu. Rhoddir caniatâd fel arfer ar yr amod bod gennych nod addysgol a’ch bod yn barod i gydnabod mai ni yw’r ffynhonnell. Mae hawlfraint y goron yn berthnasol oni nodir yn wahanol. I gael mwy o wybodaeth, ewch i http://www.statistics.gov.uk/copyright.asp |